Cyfle olaf i ddweud eich dweud ar Strategaeth Llifogydd Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 29/04/2024
Mae gan y cyhoedd lai na wythnos ar ôl i roi eu barn ar ddrafft o Strategaeth Llifogydd Gwynedd.

Mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y strategaeth, er mwyn helpu i sicrhau fod y sir mewn sefyllfa gref i ddelio â sefyllfaoedd o lifogydd sy’n debygol o godi yn y dyfodol. Mae’r ymgynghoriad yn cau am hanner nos, ddydd Sul, 5 Mai.

Bydd y Cyngor yn ystyried yr ymatebion gan y cyhoedd a gan bartneriaid allweddol cyn cytuno ar Strategaeth Llifogydd derfynol.

Mae Gwynedd – fel ardaloedd eraill o Gymru – yn debygol o weld mwy o achosion o lifogydd dros y blynyddoedd nesaf wrth i newid hinsawdd achosi mwy o dywydd eithafol, lefelau’r môr yn codi ac erydiad ar hyd ein harfordiroedd.

Amcanion y strategaeth ydi:

  • lleihau lefel y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i drigolion Gwynedd
  • datblygu dealltwriaeth bellach o'r perygl llifogydd i Wynedd ac effeithiau newid hinsawdd
  • gweithio gyda phartneriaid i sicrhau datblygiad priodol a chynaliadwy yng Ngwynedd
  • codi ymwybyddiaeth o berygl llifogydd ac erydu arfordirol lleol
  • gweithio gyda’n partneriaid i ymateb gyda’n gilydd i lifogydd ac erydu arfordirol.

Dywedodd y Cynghorydd Berwyn Parry Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Wasanaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd:

“Mae’n bwysig fod pobl, cymunedau a sefydliadau lleol yn cael y cyfle i roi eu barn ar ein strategaeth ddrafft drwy ddarllen yr adroddiad a llenwi’r holiadur. Os nad ydych wedi llenwi’r holiadur yn barod, byddwn yn eich atgoffa fod gennych tan nos Sul i’w gwblhau.

“Yn anffodus, rydym yn gweld mwy o achosion o lifogydd ym mhob rhan o’r wlad. Er na allwn ni fel awdurdod lleol atal cyfnodau hir o dywydd gwlyb – fel yr ydym wedi ei weld yma yng Nghymru y gaeaf hwn – ond  gallwn baratoi ein cymunedau i ddelio gyda’r effeithiau.

“Nid problem i drefi a phentrefi glan môr yn unig yw hyn. Er enghraifft, pan fo afonydd yn gorlifo gall llifogydd gau ffyrdd allweddol neu ddifrodi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus rydym yn dibynnu arnynt.

“Mae rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yn golygu llawer mwy nag adeiladu amddiffynfeydd. Mae’n angenrheidiol ein bod yn annog gwydnwch ehangach, yn gwneud gwaith atal ac yn codi ymwybyddiaeth o risg.”

Mae modd cymryd rhan yn yr ymgynghoriad:

  • Arlein – ewch i wefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.llyw.cymru/DweudEichDweud a dewis ‘Ymgynghoriadau ac Arolygon’.
  • Copi papur – mae copïau papur ar gael o lyfrgelloedd o fewn y sir ac o pob un o’r dair Siop Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau, Pwllheli). I dderbyn copi drwy’r post, neu mewn iaith neu fformat arall, cysylltwch os gwelwch yn dda â ygc@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679426.

Ymgynghoriad ar strategaeth sirol yw hon. Mae modd rhoi gwybod am broblemau llifogydd mewn ardaloedd penodol o’r sir drwy wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/llifogydd